Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pan welodd nad oeddwn yn yfed, gofynnodd i mi a gymerwn i laeth enwyn, am yr hwn y diolchais. Nid wyf yn meddwl ei fod ef eto wedi clywed son am lwyrymataliad, oblegid nid oedd gair am y fath gymdeithas wedi cyrraedd. Aethum rhagof, gan deimlo yn lled ddigalon wrth weled fod pob drws yn cau.

Gelwais mewn dau neu dri o leoedd yn y Dyffryn, ond nid oedd eisieu neb. O'r diwedd, daethum at wraig weddw fyddai yn cadw gweithiwr neu ddau, ac yn gweithio ychydig ei hun. Cymhellai fi i aros yno y noson honno gan ei bod ymhell yn y prydnawn. Cydsyniais. Yr oedd erbyn hyn yn brydnawn dydd Mercher. Arosais yno hyd bore Gwener, a chefais ganddi ddeu-swllt am rywbeth a wnaethum tra yno. Ond nid oedd yno ragor i mi. Nis gallaswn ond gwneyd gwaith cyffredin; ac wedi clywed gan amryw mai anhawdd oedd cael gwaith, penderfynais ddychwelyd, er fod arnaf gywilydd hefyd, ond aeth hiraeth yn drech na mi. Cyrhaeddais i dŷ y gate gerllaw Tremadog, nos Wener; a chymerais yn ol trwy Beddgelert, a Rhyd Ddu, a'r Waen Fawr, ac yn groes trwy Bentir, ac yr oeddwn adref nos Sadwrn. Ni ddywedodd fy mam fawr, ac nid oedd ond ychydig yn gwybod fy mod wedi bod oddicartref, a llai na hynny pa le y bum. Ond yr oeddwn wedi agor fy llygaid i weled fod y byd yn fwy nag y meddyliais. Yu haf 1836 penderfynais fyned i Liverpool, lle y bum hyd yn agos i'r Nadolig. Arhoswn gyda fy modryb yn Bridgewater Street, a bum yn gweithio ychydig gydag amryw. Ond gan nad oeddwn ond bachgen, ac yn hynod o amherffaith yn y grefft, nid oeddwn yn cael gwaith cyson;