Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid oedd gan yr Anibynwyr Cymreig yr amser hwnnw ond y Tabernacl yn Great Crosshall Street, a'r capel bach hir-gul y Greenland Street. Bum unwaith yn y Tabernacl mewn Cyfarfod Dirwestol, lle yr oedd Mr. Williams o'r Wern yn gadeirydd, yr wythnos gyntaf wedi iddo ddechreu ei weinidogaeth yno; a bum unwaith, ar fore Sabboth, yn Greenland Street yn gwrando Mr. Williams yn pregethu. Gadewais Liverpool tua chanol Rhagfyr, 1836, gyda steamer i'r Rhyl, a cherddais oddiyno i Fangor. Nid oeddwn wedi fy nerbyn yn gyflawn aelod cyn dyfod i Liverpool. Yn Bedford Street y bu hynny. Ond ym Mangor wedi dychwelyd y bum gyntaf mewn cymundeb.

VII. GYDA'R AREITHWYR.

Erbyn dychwelyd i Fangor yr oedd yr achos dirwestol wedi cymeryd meddiant llawn o'r lle. Dyna oedd ar dafod pawb. Nid oedd yr un cyfarfod mor boblogaidd a'r cyfarfod dirwest, a pha bregethwr bynnag a ddeuai heibio, byddai raid iddo, ar ol pregethu, ddyweyd gair ar y pwnc. Nid oedd ond ychydig o broffeswyr nad oeddynt wedi cymeryd i fyny a'r achos, er fod cryn nifer o honynt wedi gwneyd hynny yn fwy dan ddylanwad y farn gyhoedd nag oddiar argyhoeddiad. Yr oedd y cyfarfodydd hyn yn flasus-fwyd i mi, a dilynwn hwy i bob man ym Mangor a'r amgylchoedd, er nad oeddwn eto wedi areithio yn gyhoeddus, ond yr oeddwn yn paratoi at hynny. Drannoeth i'r Nadolig cynhaliwyd gwyl fawr ym Methesda—y gyntaf yn y rhanbarth hwnnw o'r wlad i'r hon y daeth cannoedd o Gaernarfon, Llanberis, Dinorwig, Bangor, a