Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawer o Fôn, heblaw cymdeithasau Bethesda a'r amgylchoedd, y rhai a rifent rai miloedd o aelodau. Gorymdeithiwyd yr heolydd dan ganu nes dadseinio creigiau y wlad, a'r faner fawr ymlaen yn cael ei chario gan chwarelwyr cryfion. Yn Caerhun y gwneuthum i y cynnyg cyntaf ar areithio, yn gynnar yn 1837; a bum wedi hynny yn fuan yng Nghapel y Graig, Rhydfawr, Pentir, Pont Ty Gwyn, Porthaethwy, Llanfair y Borth, ac Aber. Aethum i un o'r cyfarfodydd hyn gyda'r hybarch Doctor Arthur Jones, yr hwn a

ddangosodd tuag ataf dynerwch mawr. Ond yr oedd rhyw ysfa ynnof i weled rhagor o'r byd, ac aethum i weithio am ychydig yn 1837 yn Ty'n Lôn, Llandwrog; a thra yno bum yn areithio ar ddirwest yn Bwlan a Brynrodyn, a rhai lleoedd eraill yn y cylchoedd hynny. Aethum wedi hynny ymlaen i'r cyfeiriad a gymeraswn o'r blaen drwy Dremadog, a thrwodd i sir Feirionnydd, oblegid fod arnaf awydd myned i'r Deheudir. Yr oedd un John Owen, a fuasai yn gweithio gyda Dafydd Llwyd, yn byw yn agos i Ben y Garn, Bow Street, Aberystwyth, a theimlwn duedd i fyned hyd yno. Arosais dros ychydig yn y Dyffryn, gydag un oedd yn Anibynnwr. Tra yno clywais y Parch. D. Charles, B.A., Bala, yn areithio un nos Sadwrn yng Nghapel y Dyffryn. Yr oedd Hugh Roberts, Bangor, ar y pryd yn yr ysgol gyda Mr. Daniel Evans, Llanbedr—Caergybi wedi hynny—a bum gyda hwy yng nghapel y Gwynfryn; ac un noswaith yr oedd Hugh Roberts i bregethu i fyny yn uchel ym mlaen y Cwrn, ar y ffordd i Drawsfynydd mi debygwn, a cheisiodd genyf ddechreu yr oedfa iddo; a dyna y waith gyntaf i mi anturio ar y