Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fath wasanaeth. Dychwelais i Fangor heb fyned ymhellach, ac yno y bum o ganol haf hyd Nadolig 1837

Dydd Nadolig, 1837, yr oedd Gwyl Ddirwestol yn Tal y Bont, rhwng Conwy a Llanrwst, a gwahoddwyd fi iddi. Dyma y tro cyntaf i mi gael fy ngwahodd i'r fath gyfarfod, ac nid wyf yn sicr pa fodd y bu i mi gael fy ngwahodd, os nad trwy fy nghyfaill I. D. Ffraid. Cerddais o Fangor i Gonwy, a chan fod boots newyddion am fy nhraed, aeth fy nhraed yn ddolurus iawn. Yr oedd yn nyfnder y gaeaf, a'r ffordd yn drom. Yr oeddwn wedi llwyr ddiffygio cyn cyrraedd Conwy. Gelwais yn nhŷ Evan Richardson, Conwy, ac yno yr oedd John Jones, Castle Street, wedi dod yn barod i ryw gyfarfod dirwestol oedd i fod yno dydd Llun. Cefais orffwys dros ychydig. Yna ail gychwynnais. Troais i orffwys i'r tŷ wrth gapel Hen Efail, ac yr oedd erbyn hyn wedi myned yn nos. Yr oedd yr hen wr a gadwai Dŷ'r Capel yn eistedd ar yr aelwyd yn y tywyllwch, ac yn shavio,—nid oedd ganddo na glass na goleu i fyned trwy yr oruchwyliaeth. Aethum rhagof i dy fferm yn ymyl Tal y Bont, lle yr oeddwn wedi fy nghyfarwyddo, a lle yr oeddwn yn cael fy nisgwyl, a lle yr oedd llety cysurus iawn. Yr oedd yr hen Robert Owen, Llanrwst, wedi cyrraedd yno, ac efe oedd i bregethu yno y Sabboth. Yr oedd y Nadolig ar y Llun. Pregethodd yr hen wr yn y bore, a rhoddwyd finnau i areithio am ddau; ac am chwech yr oedd David Humphreys, Rhuddlan y pryd hwnnw, Ochryfoel wedi hynny, yr hwn oedd yn gwasanaethu Salem, Llanbedr, y Sabboth hwnnw, yn dyfod yno at Robert Owen, i