Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Humphreys i fod yn Nolyddelen am chwech, a Richard Jones wedi dyfod yno i'w gyfarfod. Yr oedd Richard Jones yr un ddawn a'i frodyr, ond o'r braidd yn fwy bywiog, ac yn siarad yn gyflymach. Dyna yr unig waith i mi ei weled. Ymfudodd i'r America, lle y gwelais amryw o'i hiliogaeth. Dychwelais erbyn yr hwyr i'r Betws, lle yr oedd Dafydd Rees, Capel Garmon, yn pregethu; ac nid oedd dim heddwch i mi gyda Dafydd Rees heb i mi fyned gydag ef adref y noson honno, er mwyn myned gydag ef drarnoeth i Wyl Ddirwestol oedd i'w chynnal yn Gwytherin, ac â hynny y cydsyniais. Yr oedd trwch lled fawr o eira ar y ddaear, ac yr oedd y ffordd oedd gennyf i fyned i dŷ Dafydd Rees yn un arw, weithiau trwy lwybrau coediog. Yr oedd ef yn ddyn mawr cryf, esgyrnog, garw, wedi ei galedu trwy fywyd gwledig, a brasgamai ymlaen. Nid oeddwn innau, fel y dywedasai Richard Humphreys, ond stripling main, un ar bymtheg oed, wedi ei fagu mewn tref, ac er hynny yr oeddwn yn gallu ei ddilyn. Nid oedd ef ond newydd briodi gydâ genethig ieuanc iawn, ac yn byw gyda'i dad a'i fam y'nghyfraith. Wedi gorffwys yno y noson honno, cychwynasom yn lled fore, ar ein traed, am Gwytherin trwy eira trwchus. Dyna yr unig dro i mi fod yn y lle, ac y mae yr argraff ar fy meddwl fod y lle yn rhamantus iawn. Yno y gwelais gyntaf erioed fy hen gyfaill wedi hynny, y Parch. Robert Thomas, Bangor. Yr oedd wedi bod y Sabboth yn Mhentre Foelas, ac yn cael Gwytherin ar ei ffordd adref i Gonwy, lle yr oedd ar y pryd yn dilyn ei alwedigaeth. Yr oedd Thomas Jones, y cenhadwr cyntaf i Casia,