Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y tymor, oblegid yn y gaeaf yn unig y cynhelid ysgolion mewn lleodd gwledig yn y dyddiau hynny. Byddai eisiau y plant adref pan ddeuai yn ddechreu haf. Dechreuais yr ysgol yno tua chanol Chwefror, 1838, a pharheais hi hyd ddechreu Mehefin,—rhyw chwarter da. Yr oedd yno o ddeg ar hugain i ddeugain o blant, a thalent, rai ddwy geiniog, a rhai dair ceiniog, a rhai rôt yr wythnos. Lletywn gydag un Ellis Dowell ran o'r amser, ond y rhan fwyaf mewn fferm gydag un Mr. Williams, i'r hwn yr oedd amryw blant yn yr ysgol, a rhoddai fy mywoliaeth i'mi yn rhad. Elwn ymaith ambell noson i gynnal cyfarfodydd dirwestol, a bum rai dyddiau ymaith mewn gwyliau. Areithiais yn Dyserth, Llanelwy, Gwaenysgor, Newmarket, a Gronant. Bum mewn gwyl ddirwestol ym Mostyn, lle, yn mysg eraill, yr oedd Mr. Williams o'r Wern yn areithio, a dyna'r unig dro i mi fod yn siarad ag ef. Yr oedd yn llesg a blinedig, a phan ddaeth i dy Mr. Pugh wedi y cyfarfod hwyrol, dywedai wrthyf,"Daffod fy sgidiau," fel y cefais y fraint lythyrennol o ddatod carai ei esgidiau.

Ym Mostyn y deuthum i gydnabyddiaeth âg Enoch Gibbon Salisbury, yr hwn, ar y pryd, oedd yn fachgen ieuanc gyda'i fodryb a'i ewythr mewn siop ym Magillt. Yr oedd gennyf ychydig bunnoedd o arian pan ymadewais o Prestatyn ddechreu Mehefin, a byddwn yn cael ychydig yn y cyfarfodydd y byddwn yn myned iddynt. Bum mewn nifer o leoedd yn Sir Fflint y pryd hwnnw. Treuliais rai dyddiau gyda Mr. Samuel Evans, Travellers' Inn, a bum gydag ef mewn rhai