Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfarfodydd, ac mewn Gwyl yn Nhreffynnon, lle yr oedd amryw weinidogion enwog; ac ar ddydd coroniad y Frenhines yr oeddwn ar ben Moel y Gaer yn yr ŵyl nodedig. Bum dros amryw ddyddiau ar ol hynny yn Llaneurgain, Rhosesmor, a'r Wyddgrug, lle y cefais garedigrwydd mawr gan y Parch. Owen Jones. Yn Rhuthyn hefyd, a Llangollen, bum mewn cyfarfodyddd. Gwahoddwyd fi i'r lle olaf gan "Jones, Llangollen," a bum yn aros yn ei dŷ ger llaw y dref.

VIII. NEWID ENWAD.

Ond yr oedd myned i'r Dê yn fyw iawn yn fy meddwl o hyd; ac yr oeddwn bellach yn teimlo y gallaswn bigo fy mywoliaeth, naill ai wrth weithio fy ngwaith, neu gadw ysgol, neu wrth areithio ar Ddirwest. Yr oeddwn yng Nghroesyswallt, Gorffennaf 17eg, 1838, a phenderfynais wynebu tua'r De. Aethum trwy Meifod hyd Lanfair Caereinion. Yn y lle olaf, yr oedd Mr. Roberts—Llandeilo wedi hynny—yn exciseman. Yr oedd dau fachgen a adwaenwn wedi myned i'r De, i le a elwid Taibach—dau fachgen o sir Fon, Evan Williams a David Hughes—a chan fy mod yn gyfarwydd a'r olaf, yr oedd yn fy mryd fyned ato. Aethum i'r Drefnewydd. Yr oeddwn yno ar nos Wener, Cerddais ddydd Sadwrn trwy Lanbadarn Fynydd a Llandrindod hyd Lanfair Muallt, lle yr arhosais y Sabboth; ac yna aethum i Bronllys gerllaw Talgarth, a gweithiais bythefnos. Yr oedd y gwrthwynebiad i ddirwest yn greulawn yno. Credent yn ddiderfyn mewn cider, ac yfent yn helaeth o hono. Yr oedd yn frwydr barbaus rhyngof a hwy. Clywais fod Mr. Roger