Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Edwards ar daith trwy y wlad, a'r hen frawd John Hughes, Treffynnon, gydâg ef; a chan eu bod i fod yn Aberhonddu y Sabboth, penderfynais fyned yno ar fy ffordd, fel y tybiwn, at Evan Williams a Dafydd Hughes i'r Taibach. Yr oeddwn yn adnabod Roger Edwards, ar ol ei weled amryw weithiau mewn cyfarfodydd dirwestol yn amgylchoedd y Wyddgrug. Gwrandewais arno deirgwaith y Sabboth, a nos Sabboth gwahoddodd Mr. Benjamin Watkins fi i'w dy, lle yr oedd Roger Edwards yn lletya. Yr oedd Mr. Edwards yn anfoddlawn iawn i mi feddwl aros yn y Dê. Cynghorodd fi i ddychwelyd i Fangor, ac awgrymodd y dylaswn feddwl am ddechreu pregethu, ond nas gallaswn wneyd hynny heb sefydlu yn yr un lle am yspaid. Gwrandewais ar ei gyngor, a chychwynnais ddydd Llun, drwy Drecastell, am Lanymddyfri. Yna ymlaen, ar hyd yr hen ffordd trwy Gaio, hyd Lanbedr, a thrwy Dregaron i Lanbadarn, a heibio i John Owen yn Bow Street, a thrwy y Borth, ac Aberdyfi, a'r Bermo, a Thremadog i Fangor, lle y cyrhaeddais cyn diwedd Awst.

Yr oeddwn erbyn hyn wedi gweled cryn lawer o'r wlad, ac wedi ymgymysgu a dynion o wahanol olygiadau ac o wahanol enwadau, fel yr oeddwn wedi eangu cryn lawer ar fy syniadau. Yr oeddwn, beth bynnag, wedi gweled fod dynion da y tuallan i derfynau y Methodistiaid, a llawer o bethau gan eraill oeddynt yn fwy cydrywiol a'm teimladau. Dangosid awydd mawr gan hen bobl y Methodistiaid, ym Mangor yn enwedig, i gadw pawb i lawr; a dichon fy mod innau yn fwy prysur a blaenllaw nag yr oedd yn gweddu