Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i un o'm hoedran. A'r Anibynwyr yr oeddwn wedi gwneyd mwyaf ymhob man lle y bum, oddieithr a'r Methodistiaid, ac yr oeddwn wedi gweled eu gweinidogion yn ddynion rhydd a charedig. Yr oeddwn yn gydnabyddus iawn â'r Parchedig Arthur Jones, ac wedi ei gael yn hynod o dadol, er na roddodd awgrym erioed i geisio fy hudo ato. Yr oedd Mr. David Roberts, yn awr o Wrecsam, wedi ymuno â'r Anibynwyr, ac wedi myned i sir Fôn i gadw ysgol, ac i fugeilio dwy eglwys fechan yno, a lle hefyd yr oedd yn debyg o gael ei urddo yn fuan. Nid oedd y pethau hyn oll heb gario eu hargraff ar fy meddwl, er nad ynghanais air wrth heb erioed. Yr oedd cryn gynnwrf ar y pryd yn ngylch yr athrawiaeth, a thraethawd Jenkyn ar yr Iawn yn destyn siarad cyffedinol, a chondemnio mawr arno fel llyfr peryglus. Daeth William Parry o ryw Gyfarfod Misol yn ddifrifol iawn, i rybuddio pawb i ochel darllen y llyfr, gan mai athrawiaeth gyfeiliornus a ddysgai, yn enwedig am waith yr Yspryd. Yr oedd Jenkyn ar yr Iawn yn ein tŷ—eiddo fy mrawd ydoedd—ac yr oedd ef wedi ei ddarllen oll. Ond nid oeddwn i erioed wedi ei agor, ond pan waharddwyd ei ddarllen teimlais awydd am wybod beth ydoedd. Mor wir yw y gair,—"Nid adnabuaswn i drachwant oni bai ddywedyd o'r ddeddf, Na thrachwanta." Nid oeddwn yn ei ddeall ond yn amherffaith ar ei ddarllen, a hynny mewn rhan oblegid mai Saesneg oedd, ac mewn rhan hefyd oblegid ei fod yn dywyll ac aneglur. Ond deallais ddigon i weled ei fod yn cael ei gamddarlunio yn hollol, ac nad oedd y rhai oedd yn ei gondemnio erioed wedi ei