Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddarllen; a pha mor gyfeiliornus bynnag oedd ei olygiadau, nad oedd dim yn ddamniol, fel yr awgrymid, ynddynt. Yr oedd y pethau hyn oll wedi cyd-ddylanwadu ar fy meddwl, nes peri i mi yn raddol benderfynu i adael y gangen eglwys yn yr hon y magwyd fi, a lle yr oedd fy hynafiaid oll yn aelodau, a lle y derbyniais innau fy addysg, am yr hyn y byddaf byth yn ddiolchgar, ac ymuno a'r Anibynwyr.

Ar un nos Sabboth ym mis Medi, 1838, yr oedd fy meddwl yn derfysglyd iawn. Yr oedd fy mhenderfyniad wedi ei wneyd, ond nis gwyddwn pa fodd i'w gario allan. Gwyddwn y parai ofid i'm mam, ond yr oeddwn am ei wneyd yn y modd a barasai leiaf o ofid iddi. Bum unwaith yn meddwl dweyd wrthi, ond ofnwn i hynny ddyrysu fy mhenderfyniad, felly meddyliais mai diogelach imi oedd fod y cam wedi ei gymeryd cyn fod neb yn gwybod. Aethum i'r Tabernacl y bore, ac i'r ysgol yn y prydnawn, ac i'r festri, yn ol fy arfer, cyn yr oedfa yr hwyr. A phan oedd y pregethwr yn myned i'r pulpud, a phawb yn myned i'w le yn y capel, aethum innau gyda hwy; ond yn lle myned i'r capel, llithrais yn ddistaw trwy yr heolydd cefn, a chan ei bod wedi tywyllu, a'r rhan fwyaf eisioes yn y capel, ni welodd neb fi. Pan gyrhaeddais Ebenezer, yr oedd Dr. Arthur Jones yn y pulpud, a'r dorf yn canu. Aethum i fewn trwy y pen uchaf, ac eisteddais ar yr ochr dde i'r pulpud, yn ymyl y mur, o fewn rhyw bum sêt i'r top. Gwelais lawer o lygaid yn disgyn arnaf, ond meddyliais fod llawer mwy yn craffu arnaf nag oedd. Nid wyf yn cofio y testyn, nag un gair a ddywedwyd, gan mor gythryblus