Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd fy meddwl. Terfynodd yr oedfa, ond arosodd yr eglwys ar ol, ac arosais innau. Ni ddywedodd Dr. Jones yr un gair wrthyf, ac ni chymerodd arno fy ngweled, ond, ar y diwedd, yr oedd amryw o'm cyfoedion a'm cyfeillion o'm cylch, ac i gyd yn llawen fy ngweled'; er nad wyf yn cofio i neb o honynt ofyn a oeddwn yn meddwl gwneyd fy nghartref yno. Gwynebu i'r ty at fy mam a'r plant oedd yr anhawsder, ond penderfynais mai myned ar unwaith oedd oreu. Dywedais yn y fan pa le y bum, a pha beth oedd fy mwriad. Cymerodd fy mam y cwbl yn hollol dawel, yn unig gyda dywedyd,—"Beth ddeudsa dy dad dasa fo yn fyw?" Aeth y gair i'm calon, a phe dywedasid ef dair awr yn gynt buasai yn ddigon i ysigo fy mhenderfyniad; ond yr oeddwn bellach wedi myned yn rhy bell i mi droi yn ol. Ni ddywedodd air anghymeradwyol byth wedyn am y cama gymerais. Yr oedd y si wedi cerdded drwy yr holl ddinas yn nghylch fy nghyfeillion cyn nos drannoeth fy mod wedi myned yn Sentar, ond cedwais yn y tŷ y Llun hwnnw rhag cyfarfod â neb. Gelwais gyda Dr. Jones ychydig cyn dechreu y Cyfarfod Gweddi nos Lun, a mynegais y cwbl iddo. Derbyniodd fi yn hollol garedig. Ni holodd ddim arnaf, ond dywedodd y cawn ganddo ef, gan fy mod yn dod, bob calondid a chefnogaeth. Ceisiodd genyf weddio yn y cyfarfod y noson honno, yr hyn a wnaethum; ac ar y diwedd yr oedd yr holl frawdoliaeth â breichiau agored yn fy nghroesawul. Mae bellach wyth mlynedd a deugain erbyn heddyw-Medi 1af, 1886—er hynny; ond er fy mod er hynny wedi gwneyd miloedd o bethau a barodd ofid i mi, eto