Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nerth ac ymwregysodd, a'r byd a sicrhawyd fel na syflo." Dechreuais yn ddigon uchel beth bynnag; ond yr oedd y brodyr oedd y Dr. wedi eu hanfon gyda mi, i ddwyn tystiolaeth iddo, wedi eu mawr foddhau. Yr oeddwn lawer gwaith cyn hynny wedi bod yn dyweyd ychydig oddiar adnodau mewn cyfeillachau, ond dyna y tro cyntaf i mi bregethu yn ffurfiol. Cyn pen pythefnos daeth cais o Siloh, Porth Dinorwig, ar i mi fyned yno i bregethu; a phregethais yno am ddau a chwech. Pregethais yr un bregeth ag yn Henglawdd am ddau o'r gloch; a'r hwyr oddiar Jer, xxii. 29,—"O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr Arglwydd." Pregethais hefyd mewn ty annedd, a elwid Tafarn y Grisiau, ryw noson waith ymhen rhyw wythnos ar ol hynny, oddi ar Heb. iv. 2—"Canys i ninnau y pregethwyd yr Efengyl megis ag iddynt hwythau, eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-dymheru a ffydd yn y rhai a'i clywsant". Dyna yr unig dair pregeth oedd gennyf wrth gychwyn allan. Yr oedd y ddwy gyntaf yn ddidramgwydd i bawb, ond yr oedd y drydedd yn cymeryd golwg eangach ar drefn yr Efengyl nag a oddefai llawer yn y dyddiau hynny, a bum mewn helbul fwy nag unwaith o'i herwydd.

Yn anffodus, yr oedd Dr. Jones allan â'r rhan fwyaf o weinidogion y Sir. Nid oeddynt hwy yn dyfod ato ef, ac nid oedd yntau yn myned atynt hwythau. Nid yw yn perthyn i mi ymholi i achosion yr anghydwelediad rhyngddynt. Rhyngddo ef a Mr. Williams (Caledfryn) y dechreuodd, a chymerodd y rhan fwyaf o'r gweinidogion blaid Caledfryn. Ffurfiwyd yn sir Gaernarfon fath o