unrhyw ddrwgdeimlad a allasai fod at fy hen weinidog. Penderfynais fyned i ymgynghori â Mr. Samuel, Bethesda, a Mr. Griffith, Bethel, y ddau weinidog agosaf i Fangor. Cynghorai Mr. Samuel fi i fyned ymlaen heb gymneryd arnaf wybod dim am yr anghydwelediad, a phregethu ymha le bynnag y ceisid gennyf, a threfnu i fyned o Fangor mor fuan ag y gallwn i'r ysgol, neu i gadw ysgol. Dangosodd tuag ataf garedigrwydd mawr, a rhoddodd i mi bob cefnogaeth. Cefais Mr. Griffith, Bethel, yr un mor garedig, a chynghorodd fi yn gyffelyb, ac amlygodd teimladau mwyaf parchus at fy hen weinidog, er y deallais fod y ddau am gadw ar delerau da gyda phob plaid, ac yn enwedig nad oeddynt am fyned yn erbyn mwyafrif gweinidogion y sir. Dywedai Mr. Griffith, Bethel, wrthyf fod Cyfarfod Gweinidogion i'w gynnal yn Jerusalem, Llanberis, yr wythnos ddilynol, ac y byddai cryn nifer o weinidogion y sir yn bresennol, ac y cyflwynai efe fi i'w sylw. Aethum i Lanberis i'r cyfarfod, Medi 11, 12, 1839. A chan mai dyma y cyfarfod cyntaf erioed ynglŷn â'r Anibynwyr i mi fod ynddo, rhoddaf fanylion lled helaeth am dano.
X. CYFARFOD LLANBERIS.
Y noson gyntaf pregethodd y Parch. Owen Thomas, Talysarn, oddiar y geiriau,- " Pwy bynnag a'i dyrchafo ei hun a ostyngir; a phwy bynnag sydd yn ei ostwng ei hun a ddyrchefir". Pregeth ragorol iawn, yn llawn sylwadau gwerthfawr, yn cael ei thraddodi mor esmwyth a naturiol ac anymhongar a disgyniad y gwlith ar y ddaear. Ar ei ol, pregethodd y Parch. W. Ambrose,