Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Porthmadog,—y pryd hwnnw yn ddyn ieuanc, glandeg, boneddigaidd,—oddiar y geiriau—"Felly y bydd llawenydd yn y nef yng ngŵydd angylion Duw, am un pechadur a edifarhao". Pregeth dlos, farddonol, ac yr oedd yn eglur ei bod yn cymeryd gan y dorf. Rhoddwyd fi i letya y noson honno yn nhŷ John Pritchard, brawd y Parch. Richard Jones, Llanidloes yn niwedd ei oes, a mab i'r hen bregethwr John Pritchard. Yr oedd y Parch. Robert Ellis, Rhoslan, yn lletya yno hefyd, yr hwn a fu yn nodedig o dyner a charedig i mi. Bore drannoeth, cyn yr oedfa ddeg, yr oedd yno fath o gynhadledd gan y gweinidogion. Nid wyf yn cofio fod yno neb wedi ei ddewis i fod yn gadeirydd; ond Mr. Griffith, Bethel, oedd yn cymeryd yr arweiniad. Yr oedd Robert Jones, Rhydfawr, yno,—pregethwr lled ddoniol yn perthyn i'r Methodistiaid a'r hwn oedd yn berthynas pell i mi,—ond a oedd y pryd hwnnw, am ryw reswm, wedi gadael y Methodistiaid, ac ymuno â'r eglwys yn Bethel, o dan ofal Mr. Griffith. Yr oedd ef wedi bod yn pregethu gyda'r Methodistiaid am fwy na phum mlynedd. Derbyniasid ef, a Robert Ellis, ac Ellis Foulkes, Ysgoldy, a fy mrawd Owen, yn yr un Cyfarfod Misol; ac yr oedd y pedwar o'r un cyff gwreiddiol yn Llanddeiniolen. Yr oedd gan Robert Jones gryn lawer o ddawn pregethu, ond ei fod yn rhy fentrus i ddweyd pethau uwchlaw ei ddeall; a chwynid nad oedd yn ofalus ar ei eiriau mewn tai, ac nad oedd coel yn wastad ar bopeth a ddywedai. Bu dan gerydd o herwydd hynny, fwy nag unwaith. Ond dywedai ef mai rhyddfrydedd ei olygiadau ar drefn yr Efengyl a barai