Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiar y geiriau,—"Y peth a gysylltodd Duw na ysgared dyn." Yr argraff a adawodd ar fy meddwl y pryd hwnnw oedd, mai pregeth sal iawn ydoedd, ac yr wyf yn sicr o hynny erbyn hyn; ond yr oedd yn fedrus a doniol fel ymadroddwr. Yr oedd Samuel Jones, Maentwrog wedi hynny, adref ar y pryd, wedi dyfod o Marton, lle yr oedd yn yr ysgol, ac wedi bod yn y lle er ys rhai Sabbothau. Yr oedd mesur o ddiwygiad eisioes yn y wlad, a daeth yn llawer grymusach y gauaf dilynol. Yr oedd Samuel Jones yn llawn o'r ysbryd. Efe oedd yn trefnu y cyfarfod yn bennaf, ac yr oedd wedi dyweyd wrthyf fy mod i ddechreu yr oedfa yn yr hwyr, a minnau yn falch o'r anrhydedd. Ond pan yr oeddym ar gychwyn i'r capel, pwy a ddeuai i mewn ond William Edwards, Ffestiniog,—Aberdar wedi hynny—"Hogyn Coch Ffestiniog," fel y galwai Caledfryn ef. Yr oedd wedi dyfod yno i weled Samuel Jones, oblegid yr oeddynt yn gyfeillion; ond, fel yr oedd yr hanes hyd ei ddiwedd, wedi gadael hyd yr awr ddiweddaf heb gychwyn, ac yn llawn ffwdan pan y daeth. Yr oedd yn bur boblogaidd gyda dosbarth mawr, yn ddirwestwr tanllyd, ac yn llawn o ysbryd diwygiad, ond ei fod yn myned yn eithafol. Dywedodd Samuel Jones wrthyf, yn garedig iawn, fod yn rhaid iddo roddi William Edwards i ddechreu yr oedfa, gan nad allai ei roddi i bregethu; ac yr oedd y trefniant yn hollol foddhaol gennyf, oblegid erbyn hynny, yr oedd John Pritchard ac eraill wedi ceisio gennyf aros yno dros y Sabboth, gan fod Samuel Jones yn myned ymaith. Dechreuodd William Edwards yr oedfa a gweddiodd yn hynod o afaelgar ac