Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

effeithiol. Pregethodd y Parch. W. Thomas, Dwygyfylchi, Beaumaris wedi hynny, yn gyntaf, oddiar y geiriau,—"Wele hyn oll a wna Duw ddwywaith neu dair a dyn i ddwyn ei enaid ef o'r pwll." Pregeth gref, ddifrifol, yn cael ei thra- ddodi yn angerddol. Nid oedd yr un o weinidog- ion ieuainc y cyfnod hwnnw yn fwy poblogaidd. Yr oedd ganddo nifer o bregethau oedd a mynd ynddynt. Disgwylid pethau mawr oddiwrtho, ond rhyw wywo ddarfu iddo. Pregethwyd ar ei ol gan y Parch. Robert Ellis, Rhoslan, yn nodedig o esmwyth ac effeithiol, oddiar y geiriau,—"Pan glywech drwst cerddediad yn mrig y morwydd, ymegnia." Ac yn ddiweddaf pregethodd y Parch. P. Griffith, Pwllheli, hen weinidog y lle, oddiar y geiriau,—"Ymostyngwch gan hynny i Dduw. Dygodd yr holl bregethau i bwynt. Hon, ar ei hyd, oedd yr oedfa gryfaf o'r cwbl. Galwyd cyfeillach ar ol, ac arosodd amryw, a Samuel Jones oedd lawnaf o'r tân o neb oedd yno. Drannoeth, yr oedd cyfarfod yn Bryngwyn, Llanrug, pryd y pregethodd rhai o'r gweinidogion a enwyd uchod, ac un neu ddau eraill. Dychwelais o Lanrug i Lanberis, lle y treuliais y Sabboth cyflawn cyntaf oddicartref i bregethu.

XI. ATHRAW TABOR.

Wrth ymddiddan â Mr. Ellis, Rhoslan, y nosweithiau y buom gyda'n gilydd yn nhŷ Ioan Pritchard, dywedodd wrthyf fod ysgol yn arfer bod ganddynt yn Tabor, ond nad oedd ganddynt neb ar hynny o bryd; a chymhellodd fi i ddyfod hyd yno. Tynnodd daith i mi am ryw ddeng niwrnod, drwy rannau o Eifionnydd a Lleyn, ac i