Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mi ddyfod i Tabor i gael siarad â'r cyfeillion yno. Aethum, gan ddechreu yn Nazareth, ac i'r Pantglas, Sardis, Capel Helyg, Chwilog, Abererch, Nefyn, Ceidio, Tydweiliog, Hebron, Aberdaron, Nebo, Bwlchtocyn, Abersoch, Pwllheli, Rhoslan, ac i Tabor. Pregethwn ganol dydd a'r hwyr bob dydd, a deuai nifer llosog ynghyd; ac yr oedd teimladau da yn y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd, oblegid yr oedd yn adeg lled fywiog ar grefydd, o flaen cawod fawr a ddaeth yn fuan. Swllt oedd y dogn a roddid yn y rhan fwyaf o fannau, ond chwecheiniog oedd yn y Pantglas, Chwilog, ac Abererch, ac ni chyrhaeddodd llaw pobl Aber- daron hyd hynny.

Y ddau gymeriad rhyfeddaf a gyfarfum ar fy nhaith oedd John Thomas, Chwilog (Sion Wyn o Eifion), a John Jones, Tyddyn Difyr, Tydweiliog; Bu y blaenaf yn orweddiog bron trwy ei oes, ond yr oedd yn llenor rhagorol, ac yn fardd o radd uchel. Darllenasai lawer yn ei oes; ac yr oedd un ochr, a dau pen ei wely, wedi eu llenwi ag estyll i ddal ei lyfrau, fel y byddent yn gyfleus iddo eu cyrraedd. Uchel-galfiniad ydoedd, ac yr oedd yn ofidus ei ysbryd oblegid y dôn Arminaidd oedd i'r weinidogaeth. Yr oedd John Isaac, Ffestiniog, wedi bod heibio yn pregethu, oddiar y geiriau,—"Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?" Duw yn dal yr eglwys yn gyfrifol am iachawdwriaeth y byd; ac yr oedd William Edwards, Ffestiniog, wedi bod oddiamgylch yn pregethu oddiar y geiriau,—"Gwybyddwch y bydd i'r hwn a drodd bechadur o gyfeiliorni ei ffordd gadw y enaid rhag angeu."—"Y naill ddyn i gadw y llall,"—oedd mater y weinidogaeth. Ofnai fy