Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

agos, ac i gyfarfodydd gweddi bron bob nos trwy yr wythnos. Bu amryw gyfarfodydd pregethu yn y rhannau hynny o'r wlad yn y misoedd hynny, ond y cyfarfodydd yn Nghapel Helyg a Nefyn oedd yr unig ddau y bum i ynddynt; a chyfarfodydd i'w cofio oeddynt. Daeth pedwar ugain ymlaen yng Nghapel Helyg ar ol yr oedfa, noson olaf y cyfarfod. Caledfryn oedd wedi pregethu, ond nid y pregethu oedd yn ei gwneyd hi, ond yr anerchiadau a'r gweddiau. Thomas Edwards, Ebenezer, a John Morgan, Nefyn, oedd y meginau goreu i chwythu y tân. Elai y ddau heibio i ymgeiswyr, un bob tu i'r Capel, ac er cryfed eu lleisiau, nid oedd yn bosibl clywed dim a ddywedid ganddynt gan floeddiadau y dyrfa. Deuai dynion i mewn i'r capel yn eu hol, ar ol ymadael unwaith, a syrthient ar eu hwynebau yn ddychrynedig iawn. Yr oedd y cyfarfod yn Nefyn yn rhyfeddach fyth. os oedd modd. Pregethodd William Jones, Dolyddelen, yno mewn un oedfa oddiar y geiriau,—"Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr-lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl ei wenith i'w ysgubor, ond yr is a lysg efe & thân anniffoddadwy." Yr oedd yno le ofnadwy, fel pe teimlasai y dorf ei bod o flaen y wyntyll. Yr oedd yno ryw fachgen bychan, un ar ddeg oed, o Ebenezer, yr hwn a gymerai Mr. Edwards gydag ef; rhoddwyd hwnnw i weddio, a gweddiodd yn nodedig, fel pe buasai wedi cymeryd sylwedd y bregeth i'w weddi. Nid oedd ond bachgen cyffredin ei wybodaeth, ac ni ddaeth dim nodedig o hono, ond yr oedd rhywbeth rhyfedd ynddo fel gweddiwr yn yr adeg honno. Y daith fwyaf a wnaethum tra yn Tabor oedd