Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y daith i Lanberis, Sabboth Nadolig, 1839. Yr oedd y Nadolig ar y Sadwrn, ac yr oeddwn wedi addaw pregethu yn Pantglas mewn plygain, am chwech yn y bore; ac wedi anfon cyhoeddiad i fod yn Nazareth am ddeg, Talysarn am ddau, a Pisgah am chwech, ar fy ffordd i Lanberis. Gan ei bod yn amser llewyrchus ar grefydd, mynnid i mi bregethu mewn plygain yn Tabor, ac yn blygeiniol iawn yr oedd yn rhaid i mi wneyd, os oeddwn i gyrraedd Pantglas erbyn chwech. Dechreuwyd yn fuan wedi pedwar, a phregethais oddiar y geiriau,—"Canys ganwyd i chwi heddyw Geidwad." Wedi cael brecwast gyda Betty, cychwynais yn y tywyllwch i Bantglas. Yr oedd yn fore oer, a haeneri ysgafn o eira yn disgyn, ac nid oeddwn innau mewn un modd wedi fy ngwisgo ar gyfer y fath dywydd. Gwresogais wrth gerdded yn gyflym; ond, er y cwbl, yr oedd yn agos i saith erbyn i mi gyrraedd. Pregethais yn Nazareth am ddeg. Erbyn myned i Dalsarn, yr oedd yno wyl ddirwestol, a rhoddwyd fi i areithio, a chefais ddau swllt am hynny,—dwbl y pris a gawswn am bregethu. Pregethais yn Pisgah yn yr hwyr. Wrth ofyn cyfarwyddyd pa fodd i fyned dros y mynydd i Lanberis drannoeth, cynygiodd Robert Thomas, Penrhiwgaled, y deuai gyda mi, os deuwn yn ol gydag ef i'w lety nos Sabboth; ac felly y cytunwyd. Yr oedd Robert Thomas, ar y pryd, yn gweithio ei grefft fel crydd gyda gwr ar ochr Mynydd y Cilgwyn, ac eto heb ddechreu pregethu. Aethum i Hafod Boeth i gysgu, a bore drannoeth gelwais heibio i Robert Thomas, a daeth gyda mi dros y mynyddoedd, ar fore eiraog, hyd Lanberis. Cawsom yno