Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bob ymgeledd yn nhy Pierce Davies, a phregethais yn Jerusalem am ddeg, yn Nant Llanberis mewn ty annedd, am ddau, ac yn Jerusalem drachefn am chwech. Yr oedd hi yn ddadl fawr yn y society, ar ol yr oedfa, yn nghylch y cyfarfod gweddi saith o'r gloch bore Sabboth. Arferid ei gynnal o dŷ i dŷ, fel y gwneid mewn llawer o fannau; ond gan ei fod yn dyrysu teuluoedd ar awr mor fore, dadleuai llawer dros ei gadw yn y capel, gan fod capel i'w gael, a'r capel yn fwy cyfleus. Yr oedd Tylwyth Shon Pritchard, yr hen bregethwr, yn selog iawn dros ei gael yn y capel; ond yr oedd eraill yn llawn mor selog dros yr hen drefn, ac yr oedd pob ochr yn bur boeth. Apeliwyd ataf fi, a dywedais innau yn y fan, fy mod yn meddwl mai y peth fuasai Iesu Grist, pe yno, yn ei ddyweyd fuasai,—"Cymhellwch hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ." Terfynwyd y ddadl yn y fan, a theimlodd pobl y capel yn llawen o'r oruchafiaeth, ac aethum innau yn dipyn o oracl yn eu golwg. Dychwelasom y noson honno i 'lety Robert Thomas, ac wedi cysgu ychydig oriau, codais yn fore, a chychwynnais am Tabor, ac yr oeddwn yn yr ysgol yn fuan wedi deg o'r gloch. Bum yn synnu ganwaith wedi hynny, pa fodd yr oeddwn yn alluog i fyned trwy y fath galedwaith, a minnau heb fod ond bachgennyn eiddil; ond yr oedd egni, a bywiogrwydd, ac ewyllys, yn gwneyd llawer drosof.

Digwyddodd dau amgylchiad arall yn yr yspaid y bum yn Tabor, na ddylwn fyned heibio iddynt heb eu crybwyll. Yr oeddwn wedi addaw Sabboth yn Tydweiliog, Ceidio, a Llaniestyn. Yr oeddwn wedi bod yn y lleoedd hyn o'r blaen, ac