Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pechu, gewch chi weld," ychwanegai William Daniel. Bore drannoeth, dyma William Daniel i'r tŷ lle yr oeddwn, ac meddai, "Wel rydach chi wedi g'neyd hi"; ac ar hynny tynnai allan lythyr maith, ar sheet o foolscap, oedd wedi ei dderbyn y bore hwnnw oddiwrth John Jones, yn yr hwn yr ymosodai yn y modd mwyaf diarbed ar y bregeth. Yr oedd yn waeth nag Arminiaeth, a Morganiaeth, a hanner Morganiaeth,-nid oedd yn ddim ond swp o gyfeiliornadau. Yr oedd yr hen greadur wedi treulio yr holl weddill o'r Sabboth, ar ol i mi ei adael, i gablu y bregeth, ac i roddi dyfyniadau o Eiriadur Charles, a Chorff Duwinyddiaeth Dr. Lewis i ddangos y fath gyfeiliornwr dinystriol oeddwn; ac ar y diwedd dywedai,—"Nid yw John Thomas i ddyfod yma mwy, os ydych am ei gael, rhaid i chwi a Ceidio ei gadw." Rhoddodd William Daniel y llythyr i mi, ac y mae yma eto yn rhywle. Nid yw yn werth y drafferth i chwilio am dano, ond fel y mae yn ddangoseg o gulni a rhagfarn dynion yn y dyddiau hynny. Ond dichon, oni buasai am y digwyddiad hwnnw, y buasai y bobl yn ddigon difarn i roddi galwad i mi, a minnau yn ddigon rhyfygus i'w derbyn.

Parodd y digwyddiad arall archoll llawer dyfnach i'm teimladau, ac y mae yn dangos drwgnawsedd a dialgarwch mewn cylch y dylaswn ddysgwyl cydymdeimlad. Yr oeddwn wedi cael lle i ddeall fod fy nghysylltiad ag Eglwys Bangor yn ddolur i amryw. Cefais ryw awgrym gan Mr. Ambrose, a chan Mr. James Jones, Capel Helyg, y buasai yn well pe buaswn wedi dechreu yn rhywle heblaw ym Mangor, gan gystal a