Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymryson â neb, na gwneyd dolur i neb. Daeth i Tabor bore Sabboth dilynol, sef Chwefror 23, ac yr oeddwn innau adref. Nid ynghanodd yr un gair wrthyf. Ond ymddengys iddo ddweyd wrth Robert Jones, Brongadair, a John Pierce, a Betty,—oblegid hwynthwy oedd yr eglwys mewn gwirionedd,—a phenderfynwyd ynghyd i glytio y peth i fyny, i ddianc rhag fflangell Caledfryn ar y naill law, a rhag dolurio fy nheimladau innau ar llaw arall. "Rhaid i chwi bregethu yma heno, meddai John Pierce wrthyf yn awdurdodol iawn, yn fwy awdurdodol nag y clywswn ef erioed o'r blaen. "O'r goreu," meddwn innau. Ar ol ciniaw, dywedodd Mr. Ellis wrthyf, "Gwell i chwi ddod hefo mi i Roslan." "O'r goreu," meddwn innau. Nid oes un ddadl nad oedd ef wedi meddwl dweyd wrthyf ar y ffordd, ond ei fod yn rhy dyner, ac iddo fethu magu digon o wroldeb. Gofynnodd i mi ddechreu yr oedfa, a phregethu tipyn o'i flaen, a gwneuthum innau hynny, oddiar y geiriau,—"Pwy hefyd a ymrydd yn ewyllysgar i ymgysegru heddyw i'r Arglwydd ?" Ar y diwedd ymadawson. Aeth ef i Lanystumdwy yr hwyr, a minnau yn ol i Tabor; a phregethais yr un bregeth yno. Yr wythnos ganlynol deallais fod gan Betty rywbeth i ddweyd. Bu yn fy holi ar ddieithr, a diau ei bod hi yn meddwl fod Mr. Ellis wedi dweyd wrthyf; ond pan ddeallodd nad oedd, ciliai yn ol. Y Sabboth dilynol yr oeddwn i fod yn Nazareth a Phantglas ; ac ar y ffordd i Nazareth erbyn deg, gelwais yn nhŷ Richard Owen, Pantglas,—Chwilog yn awr. Deallais y fan fod rhywbeth yn bod, a chyn hir, gofynnodd i mi a oeddwn wedi clywed beth oedd wedi bod