Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yng nghyfarfod Bontnewydd. Dywedais yn y fan na chlywswi ddim. Dywedodd yntau ryw gymaint o'r hanes, yr hyn a gawsai gan Mr. James Jones, Capel Helyg, ar ei ddychweliad o'r Bontnewydd, ac nad oeddwn i bregethu mwy heb i eglwys Tabor fy nghodi. Terfysgwyd fy meddwl yn ddirfawr. Deallais yn y fan y cwbl oedd wedi cymeryd lle y Sabboth blaenorol, a'r dirgelwch oedd gan Betty,—ond na fynnai ei fynegu,—a dywedais beth oedd wedi bod. "O, mae y peth wedi 'neyd ynta," meddai Richard Owen. Aethum yn fy mlaen i Nazareth erbyn deg, a phregethais, ond yr oedd fy nheimladau yn ddrylliog iawn. Yr oeddwn yn pregethu oddiar y geiriau,—"O Ddaear, Ddaear, Ddaear, gwrando air yr Arglwydd, ac yr oedd gennyf ddarn yn lled agos i ddiwedd y bregeth am werth gair yr Arglwydd i gysuro a diddanu mewn trallodion, ac adroddwn amryw o eiriau y Salmydd, "Dyma fy nghysur yn fy nghyfyngder, dy air a'm bywhaodd." Aeth fy nheimladau yn drech na mi, fel y torrais i wylo, ac effeithiodd hynny ar y dorf. Torrodd un hen frawd allan i floeddio yn uchel. Nid oeddwn wedi cael y fath oedfa erioed. Cyn fy mod yn Pantglas am ddau, yr oedd son am yr oedfa wedi cyrraedd o'm blaen, ac amryw wedi dod o Nazareth yno. Pregethais yno y prydnawn a'r hwyr, ac er na soniodd neb ragor wrthyf am y peth, nis gallaswn ei gael o fy meddwl. Wedi cyrraedd Tabor holais Betty, a chefais ganddi yr oll a wyddai am y mater. Dywedai fod Mr. Ellis yno y noson honno, yn gofyn a oeddwn i wedi clywed rhywbeth, a'i fod yn anfoddlawn hollol i wneyd dim ; ond mai Caledfryn a Parry