Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Conwy a Mr. Ambrose oedd yn ei wthio ymlaen, ond mai Caledfryn oedd waethaf.

Yr wythnos drachefn, yr oedd cyfarfodydd pregethu yn Porthmadog a Thabor, ac ymysg eraill oedd ynddynt yr oedd Mr. Samuel Bethesda. Nis gwn a oedd Caledfryn ym Mhorthmadog, nis gallaswn golli yr ysgol i fyned i'r cyfarfod. Ond, os oedd, ni ddaeth i Tabor. Ond yr oedd Parry Conwy yno, oblegid efe a bregethodd ddiweddaf yn y bore, ond brysiodd ymaith yn ddioed ar ol pregethu. Ymddengys mai y trefniad yn y Bontnewydd oedd, i mi gael fy atal am Sabboth neu ddau, ac yna fy nghodi yn Tabor, a'm cyflwyno i sylw y gweinidogion fel pregethwr o Tabor. Farce hollol,—yn unig o ddirmyg ar Dr. Arthur Jones. Ond yr oedd Mr Samuel wedi clywed am weithrediadau anheilwng cyfarfod Bontnewydd, ac wedi ei gynhyrſu drwyddo; ac efe, pan gynhyrfai, oedd eu meistr oll. "Galwodd y gweinidogion ynghyd i loft Tŷ'r Capel, Tabor. Nid wyf yn cofio pwy oedd yno i gyd. Ond yr oedd Mr. Ambrose yno, a Jones Capel Helyg, a Mr. Edwards Ebenezer, a Mr. Ellis Rhoslan, a Mr. Samuel Bethesda. Yr oedd Robert Jones Brongadair a John Pierce hefyd yno. Ni wyddwn yn hollol beth oedd i fod, ond clywn siarad uchel ar y llofft gan Mr. Samuel. "Pa help," meddai, "sydd gan y bachgen bach ei fod yn dod o Fangor?" Yr oedd ei wyneb wedi cochi yn fflam pan ddaeth i lawr y grisiau ; a phan welodd fi dywedodd wrthyf,—" Dewch chi, machgen bach i, mi ofala i na chan' nhw'neyd dim cam a chi"—ac erbyn hynny oedd myned gyda Mr. Jones i giniaw i Bron y Gadair, a