Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phawb o honynt yn swatio o'i flaen. Bu yr ymyriad hwn a'm henw yn y Bontnewydd yn anfantais i mi mewn mwy nag un lle wedi hynny, oblegid nid oedd pawb yn deall mai oblegid fy nghysylltiad â Bangor yn unig y dangosid gwrthwynebiad i mi. Ni wnaed erioed gynnyg mwy iselwael i lethu bachgenyn ieuanc yn hollol ddiachos, yn unig oddiar deimlad dialgar tuag at ei hen weinidog, nag a wnaed tuag ataf fi gan Caledfryn, a nifer o weinidogion sir Gaernarfon oedd ganddo yn offerynau parod at ei law. Mewn cymanfa a gynhaliwyd yn Nghaernarfon, ymhen tair blynedd ar ddeg wedi hyn,—sef ym Mehefin, 1853—yr oedd y gynhadledd yn un gynhyrfus iawn, ynglŷn ag achos Mr. David Hughes, B.A., Bangor y pryd hwnnw. Yr oedd mwyafrif gweinidogion y sir yn ei erbyn. Ond yr oedd iddo rai cefnogwyr, ac ymysg eraill Mr. Robert Jones, Bethesda, yr hwn, er fod presenoldeb y corff yn wan a dirmygus, a fed: ai ddweyd geiriau cryfion. Galwai weinidogion sir Gaernarfon yn "fradwyr a llofruddion"; a chyfeiriai ataf fi fel un oedd erbyn hynny wedi cyraedd safle i'w wahodd i'r Gymanfa o'r Deheudir, ond y ceisiodd gweinidogion sir Gaernarfon ei ladd pan yn fachgen. Trodd Mr. Ambrose ataf, a gofynnodd a oedd hynny yn wir. Ni bum yn ddigon gwrol i ddweyd ei fod, ond ceisiais osgoi y cwestiwn gyda dweyd fod sir Gaernarfon wedi newid llawer er hynny. Nid oeddwn am adgofio hen bethau, onide, y peth fuasai yn wirionedd fuasai dweyd fod hynny yn wir am rai o'r gweinidogion oedd yno dair blynedd ar ddeg cyn hynny, ond nid am danynt oll; oblegid ni chefais neb yn ffyddlonach