Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i mi na rhai o weinidogion sir Gaernarfon yn 1839 ac 1840. Tramgwyddodd Dr. Arthur Jones na buaswn yn glynu yn hollol wrtho ef, ac yn cadw heb wneyd dim â hwy; ond wrth adolygu, nid wyf yn gweled y gallaswn wneyd dim yn well nag y gwnaethum, a phe gosodid fi yn yr un amgylchiadau gwnawn yn hollol yr un fath. Eto rhaid i mi ddweyd mai anfantais ddirfawr i bregethwr ieuanc ydyw cychwyn mewn eglwys, a chyda gweinidog, heb fod ar delerau heddychlawn a mwyafrif gweinidogion ei sir.

XII. YN YSGOL MARTON.

Cyrhaeddais Marton yn nechreu yr haf. Saif y lle rhwng yr Amwythig a'r Drefnewydd, o fewn rhyw chwe milldir i'r Trallwm. Nid yw ond lle bychan gwledig, ond mewn gwlad dda odiaeth. Y gweinidog a'r athraw oedd y Parch. John Jones. Brodor ydoedd o Landdeusant, Môn, a myfyriwr o'r Drefnewydd. Sefydlodd yn Forden a Marton, ac efe a ddechreuodd yr achos ac a adeiladodd y capeli yn y ddau le. Gwr llariaidd ydoedd, ond yn wannaidd ei iechyd. Cadwai ysgol ym Marton, a daethai nifer o bregethwyr ieuainc ato am addysg. Yr oedd yn lle manteisiol i fechgyn tlodion ar gyfrif ei radlonrwydd, ac amhosibl fuasai iddynt gael gwell lle i ymarfer eu hunain i bregethu Saesneg. Yr oedd Hugh James, Llansantffraid; William Roberts, Penybont; William Thomas, Beaumaris; a Samuel Jones, Maentwrog; ac efallai rai eraill, wedi bod yno, ac wedi myned ymaith cyn fy mynediad i yno. Yr oedd Rowland Hughes, Rhoslan; Edward Roberts, Cwmafon; Evan Jones (Ieuan