Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwynedd); John Morris, Ffestiniog; a Robert Thomas, Rhyl, yno pan aethum. Nid oedd yno le ond i chwech, er y byddai weithiau wyth yno; a phe gwelai unrhyw un y ty, byddai yn anhawdd iddo ddeall pa le y rhoddid wyth o ddynion, gyda gŵr a gwraig, a saith o blant, a morwyn, i fyw, heblaw rhoddi un ystafell o'r tŷ i wasanaeth yr ysgol. Yr oedd y tŷ o faintioli mwy na'r tai a geir yn gyffredin mewn gwlad. Wedi myned i mewn trwy y drws ar ganol yr adeilad, yr oedd ar y llaw dde ystafell fawr, lle y cedwid yr ysgol; ac ar yr aswy yr oedd cegin agos o'r un maintioli, a chegin allan wrth gefn honno. Uwchben yr ystafell lle y cedwid yr ysgol yr oedd dwy ystafell, y rhai a osodid i'r myfyrwyr. Yr oedd un gwely yn yr ystafell ffrynt, a dau wely yn yr ystafell gefn. Deallaf y rhoddid hefyd weithiau ddau wely yn yr ystafell ffrynt, ond ni welais i hynny. Yn yr ystafelloedd hyn yr oeddym yn myfyrio, ac yn cysgu; a difrifol o le i bedwar o fechgyn eistedd ynddo ydoedd ystafell nad oedd yn bedair troedfedd ar ddeg ysgwar, yn yr hon hefyd yr oedd dau wely lle y cysgent y noson. Perchenogid yr ystafell ffrynt gan Edward Roberts a Rowland Hughes; ac yn yr ystafell gefn yr oedd Ieuan Gwynedd a minnau yn un gwely, a Robert Thomas a John Morris yn y llall. Ond oblegid ei gyfeillgarwch ag Edward Roberts caniateid i Ieuan fyfyrio y dydd yn yr ystafell ffrynt; ac wedi i Edward Roberts fyned i Aberhonddu ganol haf, cafodd ef fyned yno yn hollol; a chyn hir ymadawodd Rowland Hughes, a chefais innau fyned yno ato. Deg swllt yn y chwarter a dalem am ein hysgol, a deunaw ceiniog yn yr wythnos