Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am ein "gwlyb a'n gwely" fel y dywedid ; ac, yn hynny, yr oeddym yn cael digon o datws, y rhai oedd mewn helaethrwydd y pryd hwnnw, ac yn datws mawr blawdiog; ac yr oeddym yn gwneyd cyfiawnder â hwy. Yr oedd yn lle rhyfedd o rad i fyw. Prynodd Ieuan a ninnau ham yn y Trallwm, am yr hon y talsom un swllt ar ddeg Parhaodd i ni ddeufis neu ddeng wythnos, a dyna yr holl gigfwyd a gawsom am yr ysbaid hwnnw, oddigerth yr hyn a gaem ar y Sabbothau pan oddicartref. Rhoddodd hen ffarmwr, o'r enw Mr. Phillips, ryddid i ni ein dau i gasglu a fynnem o afalau oddiar ei dir, yr hyn a wneuthom heb betrusder. Yr oedd gan Ieuan fox mawr, a chennyf finnau fox bychan, a llannwyd y hynny. Yr oedd gan Mrs. Jones ddysgl bridd, felen, fawr, ac ysmotiau gwynion yn ei gwaelod. Llanwai honno ag afalau, a rhoddai dipyn go lew o does arnynt, ac i'r pobty a hi. Yr oedd honno genym bob dydd ar ol ychydig bach o ham, a llawer iawn o datws, fel y gwnaem giniaw da bob dydd; ac ni ddeallais erioed fod y cylla yn gwingo yn eu herbyn oblegid methu eu treulio. Yr oedd Mrs. Jones yn hynod o garedig, ond nid oedd yn nodedig am fedrusrwydd na glan weithdra; ond beth a allesid ddisgwyl amgen, gyda chwech o honom ni, a saith o blant mân, a gwr gwan ac afiach, a hogen o forwyn heb fawr fedr, er yn ddigon ewyllysgar?

Am y myfyrwyr oedd yno—dyn synwyrol a deallgar oedd Edward Roberts. Yr ydoedd wedi byw am ysbaid yn Manchester, ac wedi gweled tipyn o'r byd, ac yntau yn sylwedydd craff, ac yn deg a chywir ei farn. Dyn diniwed