Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd Rowland Hughes, ond cyffredin ei alluoedd, eithr gwnaeth ei oreu yn ol y ddawn a rodded iddo. Dyn pur a gonest dros ben oedd Ieuan Gwynedd, cydwybodol ym mhopeth, llym a manwl hyd at fod yn greulawn. Daeth yn well yn hynny wedi gweled mwy o'r byd, a chyfarfod thymhestloedd. Dyn gwael oedd John Morris, segur a diafael. Nid oedd ymroad ynddo i ddysgu nac ychydig allu ar y goreu. Soniai rhywrai am ei dalent, ac ymffrostiai yntau yn ei wybodaeth o amryw ieithoedd, ond ymffrost gwag oedd y cwbl. Yr oedd Robert Thomas ac yntau yn gyfeillion, a'r hyn yn bennaf a barai eu cyfeillgarwch oedd fod y ddau yn smocio ac yn cnoi tybaco yn sly, ac yr oedd hynny yn erbyn deddfau y ty. Nid oedd fawr ddysgu yn Robert Thomas. Yr oedd yn fwy na deg ar hugain oed yn myned i Marton. Ond yr oedd ganddo lawer o ddawn, ac yr oedd yn ddadleuydd mawr ar y cwestiynau duwinyddol oedd yn cynhyrfu y wlad yn y dyddiau hynny. Yr oedd elw y Dysgedydd y pryd hwnnw yn myned i gynorthwyo bechgyn ieuainc i gael addysg, a'r bechgyn ym Marton oedd yn cael mwyaf, a danghosid ffafr i fechgyn sir Feirionnydd. Yr oedd Edward Roberts ac Ieuan yn cael ychydig, yr oeddynt hwy eu dau yn dyfod o'r Brithdir yn ymyl Dolgellau. Yr oedd John Morris yn cael ychydig, oblegid yr oedd yntau yn dod o Ffestiniog. Yr oedd Robert Thomas hefyd wedi cael ychydig. Ni chefais i ddim erioed, ac ni wnaethum gais am ddim. Y cwbl a dderbyniais erioed, o unrhyw eglwys neu o unrhyw drysorfa, oedd un swllt ar ddeg a saith geiniog, a gasglwyd i ni yn Bethel, Arfon,