Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swllt a roddid i ni am fyned yno, ond os elem i Fraich y Waun yn y prydnawn, ceid swllt arall. Yr oedd eisieu help agos bob Sabboth yn nghylch gweinidogaethol y Parch. James Davies, Llanfaircaereinion. Elem un Sabboth i Siloh y bore, Penarth y prydnawn, a Lawnt yr hwyr. Hwnnw oedd y Sabboth goreu—ceid deuswllt ymhob lle, yn gwneyd chwe swllt. Yr oedd Mrs. Davies, Lawnt, yn wraig garedig a chrefyddol iawn. Sabboth arall, elem i Brynhwdog y bore, Voedog am ddau, a Brynelen yr hwyr. Ceid pum swllt y Sabboth hwnnw. Mae Capel Canaan wedi ei godi heb fod ymhell o'r Lawnt, a Byrwydd yn ymyl Brynhwdog, a Jerusalem yn lle Brynelen. Yr oedd lle hefyd o'r enw Gallt y Ceiliog lle y pregethem. Bu Ieuan a minnau ym Marton am rai misoedd wedi i Mr. Jones fethu. Pregethai ef ym Marton a'r lleoedd Seisnig, a gwasanaethwn innau i'r eglwysi Cymreig. Treuliais lawer o amser yn amgylchoedd Llanfair a Phenarth, ac yr oedd yr hen bobl yno yn garedig iawn wrthyf. Mynnai rhai o honynt rannu y weinidogaeth a rhoddi galwad i mi, ond nid oedd Mr. Davies mewn un modd yn foddlawn rhannu yn deg. Yr oedd yn foddlawn rhoddi Penuel a Brynelen i fyny, a chadw Llanfair, Penarth, a Siloh, y tair eglwys gryfaf, ei hun. Penuel oedd y wannaf o'r cwbl, ac nid oedd capel yn Brynelen. Wedi deall fod anfoddlonrwydd enciliais, er fod gennyf serch cryf at y lle a'r bobl.