Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XIII. TEITHIO.

Yr oeddwn yn Llanbrynmair ryw noson, ac yn ymddiddan â Mr. Samuel Roberts, ac yn ei holi am rywle i fyned i'r ysgol. Crybwyllodd wrthyf am athrofa Ffrwd y Fal, a dywedai fod yno amryw o bregethwyr ieuainc, a'i fod wedi cael gair da i Mr. Davies fel athraw. Anogodd fi i fyned ar daith hyd yno i weled y lle, a phenderfynais wneyd hynny. Yr oedd hyn yn gynnar yn 1841. Anfonais gyhoeddiad i fod yn Nhalybont nos Sadwrn a'r Sabboth. Yr oedd Ieuan Gwynedd wedi bod yn gwasanaethu yn Maesnewydd yn adeg yr ymraniad, ac yno hefyd pan wnaed y rhwyg i fyny; a thrwy fy nghysylltiad ag ef, pe na buasai am eu croesaw arferol, cefais garedigrwydd mawr gan deulu Maesnewydd. Digwyddodd fod cyhoeddiad Mr. David Roberts, Siloh,—Wrexham yn awr,—a Mr. David James, Rhos y Meirch, y rhai oeddynt yn myned ar daith drwy ran o'r Dê, yn Nhalybont y nos Sadwrn a'r bore Sabboth hwnnw; ac yr oeddym ein tri yn lletya ym Maesnewydd.

Pregethodd Mr. Roberts a minnau nos Sadwrn a bore Sul pregethodd Mr. Roberts a Mr. James. Yr oeddynt hwy yn myned ymlaen i Lanbadarn ac Aberystwyth y prydnawn a'r hwyr; ac yr oeddwn innau yn Ceulan y prydnawn, ac yn dyfod yn ol i Dalybont yr hwyr. Nid wyf yn cofio manylion y daith ar ol hynny, ond bum yn Dyffryn Parth, a Nebo, a Neuaddlwyd, a Penrhiwgaled, ac ymlaen i'r Drewen at Robert Jones, yr hwn oedd newydd ei urddo yno, ac yr oedd yn fawreddog a chwyddedig iawn. Pregethais yn Bethesda, ac aethum drwy Gastellnewydd ond ni