Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phregethais yno, ac nid wyf yn cofio pa leoedd y pregethais ynddynt, ond yr wyf yn cofio i mi bregethu yn Capel Noni. Yr oedd y capel ar ei hanner, ac yr oedd un Cook oedd yn weinidog yn Lacharn yno; a chanol dydd drannoeth yr oedd Thomas Jones, Ty'n y Gwndwn, yno yn pregethu. Pregethais hefyd yn Brynteg. Yr oedd Evan Williams,—Pencae ar ol hynny,—yno yn cadw ysgol, wedi ymadael a Chefn Coed Cymer, oblegid nad oedd yn cydolygu a'r eglwys am helynt y Siartiaid. Buasai ef yn weinidog ym Moelfra, Môn, ac yr oedd yn hynod o garedig i mi. Nid oedd yno gyhoeddiad i mi, ond gwnaeth i'r plant hysbysu y buaswn yo pregethu, ac yr wyf yn meddwl fod cyfeillach i fod yno y noson honno. Aethum y Sabboth at Richard Owen oedd yn weinidog yn Llanfair ac Ebenezer, a bum yn cydbregethu yno a'r hen John Thomas, Glynarthen. Yr oedd Richard Owen yn Ogleddwr, ac oblegid hynny cefais ef yn garedig iawn. Yr oedd rhyw hen chwaer Galfinaidd wedi ei alw i gyfrif am rywbeth a ddywedasai yn ei bregeth y Sabboth blaenorol, ac yr oedd wedi cythruddo yn fawr o'r herwydd, a dywedai na oddefai y fath beth. Ni bu yn gysurus ar ol hynny, a chyn hir enciliodd i'r Eglwys Sefydledig.

Nid aethum hyd Ffrwd y Fal, oblegid fod croesaw i'r ysgol yno heb unrhyw ymgynghoriad, ac felly dychwelais. Pregethais yn Aberystwyth y Sabboth; ac yr oedd yr hen Azariah Shadrach yn fy ngwrando y bore, a boddheais ef yn fawr oblegid fod fy mhregeth mor Ysgrythyrol. Gelwais yn ei dŷ y Llun, ac adroddodd i mi gryn lawer o hanes ei deithiau gynt yn y Gogledd.