Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rywfodd yr oedd rhagfarn yn fy meddwl yn erbyn Azariah Shadrach, er nas gwn ychwaith paham. Rhaid fod rhywrai wedi siarad yn fychanus wrthyf am dano. Yr oedd wedi glynu wrth yr hen athrawiaeth pan yr oedd y rhan fwyaf wedi eu cymeryd i fyny gan y "system newydd"; ac yr oedd son fod llawer o bregethwyr ieuainc yn marchnata yn ei bregethau wedi peri i mi gadw rhag eu darllen. Ond wedi treulio y diwrnod hwnnw gydag ef, newidiodd fy marn yn hollol am dano. Cefais ef yn hen ŵr gwybodus, nodedig o garedig, hynod o anymhongar, a llawn o deimlad crefyddol; ac y mae darllen ei weithiau, a gwybod mwy o'i hanes, wedi dyfnhau yr argraff a wnaed arnaf y pryd hwnnw. Tynnodd gynllun taith i ini hyd Ffrwd y Fal, trwy Lanidloes a'r Rhaiadr. Cyrhaeddais Marton er cael y box, a'r ychydig ddillad a llyfrau oedd gennyf yno; ac anfonais ef gyda'r carrier o'r Trallwm i Lanymddyfri, ond bu fwy na phythefnos yn myned. Yr oeddwn yn Ffrwd y Fal o'i flaen. Aethum y Sabboth cyntaf, drwy Lanidloes a St. Arnon, i Rhaiadr. Y Parch. Robert Thomas, Hanover, oedd y gweinidog y pryd hwnnw, ac yr oeddynt wedi cael yno ddiwygiad grymus. Yr oedd yno gynulleidfa lawn, a Chymraeg oedd yr holl wasanaeth, oddieithr ychydig Saesneg a roddid ar nos Sabboth; ac yr oedd anfoddlonrwydd mawr gan lawer o'r hen bobol i hynny. Yr oedd Rhaiadr y pryd hwnnw yn un o'r hen eglwysi cryfaf. Dydd Llun aethum i Lanfair. Yno cyfarfyddais â Thomas Jones, Merthyr Cynog; ac yr oeddym ein dau wedi ein cyhoeddi i fod nos Lun yn Cefn y Bedd, ac nid yn Llanfair.