Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A chan fod capel bach Cefn y Bedd yn myned o dan ryw adgyweiriad, yn nhŷ Mr. Jones, Cefn y Bedd, y pregethasom. Dydd Mawrth aethum i Droed Rhiwdalar, i Dan yr Allt, tŷ Mr. Williams, Llanwrtyd. Yr oedd y cyhoeddiad wedi drysu, ond pregethais y noson honno yn Nhan yr Allt. Dyma y tro cyntaf i mi weled Mr, Williams, a bu i mi yn garedig iawn. Yr oedd yn ddirwestwr selog, yn hen gyfaill i Dr. Arthur Jones, ac wedi gweled fy mrawd Owen pan y buasai heibio ar ei daith ddirwestol. Aeth a mi gydag ef i ryw angladd oedd ganddo y prydnawn hwnnw, a gwnaeth i mi bregethu yn ei le. Yn fuan wedi i mi ddychwelyd o'r angladd i Dan yr Allt, daeth Rhys Dafis,—Rhys glun bren, fel yr adweinid ef oreu,—at y tŷ yn ddrwg-dymherog iawn. Yr oedd wedi bod wrth y capel, ac wedi clywed nad oedd yno gyhoeddiad. Aeth y ddau hen frawd i dymer wyllt, ond daethant i'w lle yn fuan, a threuliwyd y noson i ymgomio yn ddifyr gan fyned dros helyntion y dyddiau gynt. Dyma y tro cyntaf i mi weled Rhys Dafis. Pregethodd ar fy ol y noson honno. Y dyddiau dilynol aethum i Beulah, a Llanwrtyd a Bethel; ac o Bethel croesais y mynydd i Cefnarthen, i dŷ Edward Jones, Pentre Tygwyni. Yr wyf yn meddwl fy mod yno nos Iau, oblegid fod y cyhoeddiad yn Bethel wedi dyrysu. Treuliais y noson gydag ef. Yr oedd ei iechyd wedi ei amharu, a phoenid ef gan beswch; dyn caredig iawn, gwylaidd ac anymhongar, ac yn llawn o yspryd ei waith. Yr oedd ganddo ddawn pregethu, ac yr oedd wedi darllen gweithiau Dr. Dick, y rhai oeddynt hollol ddieithr i'r rhan fwyaf o'r pregethwyr oedd o'i