Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd.


ADEG rhyddiaith yw ein hoes ni; ond, tra yr afradir amser ac ynni ar ffurf prydyddiaeth, caiff rhyddiaith ei ysgrifennu rywsut, heb ymgais at y cain, y tlws, a'r tryloew mewn arddull. Eithaf peth fyddai troi 'n ol at ysgrifenwyr rhyddiaith goreu Cymru, a syllu ar y grym a'r llyfnder iaith sydd yn esbonio eu dylanwad. Ymysg y rhain y mae lle uchel iawn i John Thomas. Nid wyf yn haeru fod ei arddull yn berffaith ymhob manylion; ond mewn tryloewder, symledd, a min y mae yn gynllun i ni. Yr oedd ei nerth cof a'i welediad clir yn gwneyd ei iaith mor loew a phur a nant y mynydd.

Ganwyd John Thomas yng Nghaergybi yn 1821; ond ym Mangor y treuliodd ei febyd. Dywed nad oedd ei deulu yn hynod am dalent ; ond, pe na buasai ond am Owen Thomas a John Thomas yn unig, ychydig deuluoedd sydd mor enwog yn hanes meddwl a llenyddiaeth Cymru yn awr. Daeth John Thomas yn fore dan ddylanwad y Diwygiad a Dirwest, ac wrth eu gwasanaethu hwy y daeth ei benderfyniad gwydn a'i gyfoeth o feddwl ac iaith ir amlwg. Dechreuodd gadw ysgol a phregethu gyda'r Anibynwyr yn 1837, pan oedd Dr. Arthur Jones, Caledfryn, Ambrose, a Gwalchmai yn eu bri. Yn 1840 aeth i'r ysgol i Marton, lle yr oedd Ieuan Gwynedd yn gyd -