Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gylch. Dyn o wybodaeth gyfyng ydoedd, a'i farnu wrth safon gwybodaeth y dyddiau hyn; ond yn ol safon y dyddiau hynny yr oedd yn ddyn gwybodus, ac yn sychedu am fwy o wybodaeth. Yr oedd yn ddyn cymwys i ddiwylliant, a phe cawsai fyw buasai yn myned ymlaen gyda chynnydd yr oes. Pregethais yn Pentre Tygwyn nos Wener; a nos Sadwrn yr oedd John Davies, Mynydd Bach, yno yn pregethu, ac arosais i'w wrando, ac yr oedd amryw o Lanymddyfri wedi dyfod yno ar ei ol. Yr oeddwn wedi anfon cyhoeddiad i fod yn Llanymddyfri nos Sadwrn a bore Sabboth, ac i Myddfai a Sardis at ddau a'r hwyr; ond cadwodd Mr. Davies fi yn Llanymddyfri drwy y dydd i bregethu dair gwaith. Ni ddywedodd wrthyf nos Sadwrn amgen nad oeddwn i fyned i Myddfai a Sardis; ond nos Sabboth cydnabyddodd yn onest ei fod am glywed y bore pa fath bregethwr oeddwn cyn penderfynu a yrrai fi ymlaen ai peidio; a phe buaswn yn salach yn ei olwg mae yn debyg y cawswn fyned ymaith a chroesaw. Er ei fod yn ddyn diniwed iawn, eto yr oedd ynddo lawer o gyfrwysder i ofalu am dano ei hun. Un o'r dynion caredicaf ydoedd.