Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XIV. YSGOL FFRWD Y FAL.

Dydd Llun aethum rhyngwyf a Ffrwd y Fâl. Mae gennyf gôf byw o'r olwg gyntaf gefais ar y wlad, pan yn nesau at y dyffryn bychan, tlws yn yr hwn y mae Capel Crug y Bar. Nid oeddwn erioed wedi gweled gwlad a adawodd y fath argraff ar fy meddwl; ac yr oedd deall mai Anibyniaeth oedd wedi ei pherchenogi yn llwyr, yn peri ei bod yn fwy swynol fyth. Cyfarwyddasid fi gan Mr. Williams, Llanwrtyd, i fyned i letya i Nant- gwyn, os byddai yno le,—y tŷ ffarm agosaf at Ffrwd y Fâl. Daniel a Susan Williams oedd enwau y gŵr a'r wraig, Pobl ddiblant. Lle glanwaith iawn. Yr oedd y gŵr yn ddiacon yn Nghrug y Bar, ac yn selog dros Mr. Evan Jones, y gweinidog, pan yr oedd eraill yn ei boeni. Ond dyn lled hawdd ei gyffroi ydoedd. Yr oedd yno amryw yn lletya, ac ymysg eraill John Williams, Brownhill,—Castell Newydd wedi hynny,—dyn ieuanc glandeg, gwylaidd y, pryd hwnnw, ac yn barchus a phoblogaidd fel pregethwr. Rhoddwyd fi i gysgu gydag ef, a ffurfiwyd rhyngom gyfeillgarwch mawr. Dyn ieuanc pur ei feddwl, ei iaith, a'i ymddygiad y gwelais i ef, a'i ysbryd yn gyflwynedig i'w waith. Nid yw fy adgofion am Ffrwd y Fâl yn helaeth, ac y mae fy syniad am yr athraw ymhell o fod mor uchel a'r eiddo llawer. Ysgoldy bychan, cyffredin ydoedd, a meinciau a desciau ar ei draws ar y llaw chwith i'r drws; a desc yr athraw yn union ar gyfer y drws. Ar ei ddeheu ef, a'u gwyneb at yr ysgolheigion eraill, yr oedd plant Mr. David Davies, Ffrwd y Fâl, y boneddwr oedd bia y lle, a'r hwn a roddai yr ysgoldy, ac y gadwai