Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wai yr athraw am ddysgu ei blant ef. Medr ei blant ef, ac Evan Davies o'r Gelli,—Dr. Davies, Abertawy wedi hynny—i ddysgu, wnaeth fwy na dim arall i roddi enw' i ysgol Ffrwd y Fâl. Bu yr athraw, William Davies, yr hwn ar ol hynny a raddiwyd yn Ph.D., yn weinidog yn Cornwall, ond methiant truenus fu yn y weinidogaeth. Yr oedd ei ddawn yn un o'r rhai diflasaf, ac eto medrai ddynwared doniau eraill. Llac iawn oedd yn ei olygiadau duwinyddol, ac amheuid ei fod yn gwyro at Sosiniaeth; ond yr oedd yn credu mwy mewn arian na dim arall, ac yr oedd yn gogwyddo at y Sosiniaid yn bennaf am fod arian yn eu trysorfâu. Gwnai elw ar fechgyn tlodion yr ysgol wrth gymell llyfrau, a phapur, a phinnau ysgrifenu arnynt, a'r neb y cai fwyaf oddiwrtho fyddai fwyaf yn ei ffafr. Yr oedd ganddo allu nodedig i ddirmygu athaflu amheuaeth i feddyliau, a gwneyd gwawd o'r pethau mwyaf cysegredig. Felly y treuliau y rhan fwyaf o bob bore Llun yng nghlyw yr holl ysgolblant. Eisteddai y rhan hynaf oedd yno, a'r pregethwyr gyda hwy, ar y meinciau blaenaf. Rhoddwyd fi ar ben pellaf y fainc flaenaf, yn ymyl y mur. Elai pob un ymlaen ato ef at ei ddesc i ddyweyd ei wers; a phan y byddai ambell un yn lled drwstan, os na byddai yn ei ffafr, gwnai wawd o hono yng ngolwg yr holl ysgol.

Ymysg y pregethwyr oedd yno pan oeddwn i yno, a'r rhai a aeth yn bregethwyr ar ol hynny, heblaw John Williams, Brown Hill, yr oedd John Evans, Maendy; David Stephens, Glantaf; Noah Stephens, Liverpool; Dafydd Jones, Bwlch Llidiart; a Henry Davies, Manor Deilo,—yr oedd