Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y pedwar yma o Gapel Isaac a daethant yno yr un pryd yn fuan wedi i mi fyned yno, ac yr oeddynt yn lletya ynghyd yn Treweun; John Griffith, Aberpedwar; Sem Phillips; John Lloyd Jones, Pen y Clawdd; ac un neu ddau eraill. Yr oedd John Evans, Maendy, yn hen fachgen 30 oed, a mawr fel yr hoffai yr athraw ei boeni, er na byddai byth ar ei ennill o wneyd hynny. Daethum yn lled adnabyddus fel pregethwr, fel na bum Sabboth heb bregethu tra yr arosais yno, a da i mi oedd hynny, oblegid nid oedd gennyf ddim arall i ddibynnu arno. Ond truenus o fychan oedd y tâl a roddid. Ceisiodd Mr. Jones, Crug y Bar, gennyf bregethu yno y bore Sabboth cyntaf, ac yr oedd yn Sabboth Cymundeb, a digwyddodd i mi gael oedfa lled hwylus. Yr oedd yng Nghrug y Bar y pryd hwnnw rai hen addolwyr cynnes, gweddillion y dyddiau gynt, pan oedd Shon Dafydd Edmwnd, a Nansi Jones, Godre'r Myn- ydd, yn eu hwyliau mawr. Digwyddodd i mi daro ar lygedyn goleu y bore hwnnw, fel y torrodd dwy neu dair o honynt i orfoleddu. Parodd hynny dipyn o sôn am y pregethwr ieuanc, heblaw fod tipyn o fri ar wr dieithr o'r North. Gwahoddwyd fi i bregethu yn fisol i Salem, a chynygiwyd dau neu dri o leoedd eraill i mi; ond gan mai hanner coron a roddid am Sabboth, gwell oedd gennyf gadw fy hunan yn rhydd. Yr oedd hynny yn talu yn well i mi. Pregethais yn yr holl gapeli o Ffald y Brenin i Landeilo, ac o Ryd y Bont hyd Lanymddyfri, ac o Ebenezer, Llangybi, hyd Gwynfe; a gwahoddid fi yn aml i bregethu yn yr wythnos lle nas gallaswn fyned ar y Sabboth. Tra y bum yno, bum mewn Cyfarfod