Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XV. TREFDRAETH GAREDIG.

Yr oeddynt wedi bod heb weinidog iddynt eu hunain yn Nhrefdraeth ers blynyddoedd, ac heb weinidog mewn enw er marwolaeth Henry George, Brynberian, yr hwn nas gallai ddyfod atynt ond yn anaml, gan fod ganddo bump o eglwysi i fwrw golwg drostynt. Yr oedd yno dyrfa fawr y noson honno, yr hen gapel yn llawn, ac oedfa hwylus iawn. Daeth dau ddwsin neu ddeg ar hugain o honynt ar fy ol i'n llety. Lletyem mewn tafarndy bychan a gedwid gan un Stephen Davies. Dechreuasant yn y fan wasgu arnaf i aros yno, ac i'm cyfaill fyned ar ol y cyhoeddiadau; ac felly y cytunwyd. Rhoddwyd fi i letya yn y Felin Newydd, gyda un David Harries a'i wraig. Dyn bychan, bywiog, selog oedd ef; ac yr oedd hithau yn ddynes hawddgar dros ben, heb derfyn i'w charedigrwydd. Bu pawb yn hynod o garedig i mi. Dechreuasant yn ddioed gasglu yn eu plith eu hunain i gael siwt o ddillad newydd i mi, am y rhai yr oedd arnaf wir angen. Pregethais yn y dref y Sabbothau, ac mewn amaethdai drwy y wlad oddiamgylch ddwywaith neu dair bob wythnos, dros fis o amser. Yr oedd yn amhosibl i neb gael mwy o garedigrwydd ; ond deallais yn lled fuan nad oedd yno unfrydedd i roddi galwad i mi, er y gwyddwn fod corff yr eglwys drosof. Yr oedd yno ddau bregethwr cynorthwyol, John Davies,— Gideon wedi hynny—a Thomas Davies, Principality, fel yr adnabyddid ef. Tybid fod eu llygaid hwy ar lle, ac er fod yn eglur na roddai yr eglwys alwad i un o honynt, nac i'r ddau ynghyd, eto nid yw yn debyg fod arnynt awydd mawr i