Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weled neb arall yno. Ni ddangosodd yr un o'r ddau ond pob parch a charedigrwydd i mi; ac ni chlywais fod John Davies yn dweyd nac yn gwneyd dim yn fy erbyn. Ond nis gallaf ddweyd yr un peth am Thomas Davies, er ei fod yntau yn hynod o gyfrwys a gochelgar. Ond yr oedd cryn lawer o berthynasau i'r ddau yno, ac er y cyffesai y rhan fwyaf o'r cyfryw eu bod drosof, eto cefais brawf mai "ffals yw gwaed." Yr oedd yno un Joseph Davies,—os wyf yn cofio yn iawn, hostler mewn gwesty,—yn gwneyd ei hun yn bur brysur; a thrwyddo ef yr oedd Thomas Davies a rhyw ddau neu dri yn gweithredu. Ymddengys iddynt ysgrifenu at ryw weinidog yn y Gogledd i ymholi yn fy nghylch, ac iddynt gael atebiad. Lledaenid y gair yn ddistaw eu bod wedi cael llythyr, ond ni ddangosid ef; ond awgrymid yn llechwraidd nad oedd yn bopeth a ddymunid. Clywais innau, a hawliais weled y llythyr yn y fan, a bu raid ei ddangos. Llythyr at y Joseph Davies yma ydoedd, oddiwrth y Parch. R. P. Griffith, Pwllheli, yn atebiad i lythyr a dderbyniasai oddiwrtho. Nid oedd un gair anffafriol am fy nghymeriad yn y llythyr, ond fy mod yn lled ieuanc i'r weinidogaeth. Gwir bob gair. Ond nid oedd eisiau myned o Drefdraeth i Bwllheli i'w wybod. Pan ddeallais fod pethau felly, dywedais nad arhoswn yno ond nes y deuai y mis i ben. Eithr ni fynnai fy nghyfeillion fy ngollwng. Yr oedd yr hen bobl, a chorff yr eglwys, yn fy ffafr. Yr hen William Morgan, tad y Parch. W. Morgan, D.D., gweinidog y Bedyddwyr yn Nghaergybi, oedd un o'r rhai mwyaf selog. Yr oedd yno hefyd ddau hen ŵr yn Nefern, y rhai oeddynt ddau frawd, ac