Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gorchwyl yn fy ngolwg, fwy neu lai, o hynny hyd yma. Cefais gynnorthwy amryw hen aelodau o'r Bedyddwyr, rhieni pa rai a fuasent yn dioddef llawer dros grefydd. Mae'r aelodau hynny wedi myned i orffwys ar ol eu tadau. Cefais hefyd gynorthwy gan amryw ag sydd eto ar dir y byw. Yr wyf yn mawr ddiolch iddynt oll am eu caredig barodrwydd i hynny.

Wrth ysgrifennu enwau ein cyd-wladwyr, ni ellais yn gwbl foddio fy hun. Bwriadais ar y cyntaf eu gosod oll yn Gymraeg, ond bernais y buasai Iago, Ioan, &c., yn edrych ac yn seinio yn chwithig i'r oes hon, er eu bod yn ysgrythyrol. Heblaw hynny, nid yw bosibl gosod yr ail enwau, sef Davies, Jones, &c., yn Gymraeg gywir heb eu troi tu hwnt i ddeall llawer. O herwydd y pethau hyn, a bod y Cymry, gan mwyaf yn awr, yn ysgrifennu eu henwau yn Saesneg, mi a'u canlynais, ac a osodais y rhan fwyaf o'r enwau yn ol trefn y Saeson a'r Cymry presennol. Odid na bydd rhai yn beio ar hynny, ond ysgatfydd, buasai mwy yn beio ar y ffordd arall. Gwell fuasai gennyf fi eu bod yn Gymraeg ddigymysg. Ond mae'n cenedl ni wedi gwyro, dryllio, a llarpio eu henwau, a threfn yr hen Frutaniaid yn ddireswm, er pan ddarfu iddynt ymheddychu â'r Saeson, sef ys rhwng dau a thri chan' mlynedd. Amcanwyd difetha'r iaith Gymraeg hefyd yr amser hynny ac wedyn.

Mi arferais y geiriau Presbyteriaid, Independiaid, Methodists, ac weithiau Calfinistiaid ac Arminiaid, yn unig mewn ffordd o wahaniaeth, pan y byddai achos: ond nid yn y mesur lleiaf, mewn ffordd o amharch neu ddiystyrwch. Mi a ddechreuais arfer y gair Methodistiaid, gan ei