Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod ryw faint yn fwy Cymreigaidd; ond meddyliais y gallai rhai anwybodus dramgwyddo wrth y sain hynny, am ba achos aferais y gair Methodists. Fy amcan yw bod yn ddidramgwydd, neu o leiaf, yn ddiachos tramgwydd, ac yn garedig i bawb.

Byddai dda iawn gennyf pe byddai'n brodyr, yr Ymneillduwyr eraill, yn casglu ac yn argraffu eu hanes hwythau ymhlith y Cymry o'r dechreuad. Os gallwn i fod o unrhyw gynorthwy, byddwn yn barod iawn i hynny.

Pe byddai rai o'r brodyr, y Methodists (neu eraill) o Eglwys Loegr, hefyd yn rhoi hanes byr o wyr duwiol yr Eglwys honno ymhlith y Cymry, ac o'r hen Frutaniaid duwiol, gannoedd o flynyddau cyn son am Eglwys Grisnogol ymhlith y Saeson, ac yn neillduol, o'r diwygiad diweddar

trwy'r Methodists,[1] o'u dechreuad hwy hyd yma,

  1. Am y diwygiad hwnnw, y mae gweinidog duwiol deallus o Eglwys Loegr (Mr Newton), yn ei bregeth ar farwolaeth Mr Whiteficld. yn dywedyd fel y canlyn. Ei destyn oedd, "Efe oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleu." Ioan v. 35. Wrth sôn am Mr Whitefield dywed, Cyfodwyd ef i lewyrchu mewn lle tywyll. Yr oedd crefydd yn isel iawn yn ein heglwys ni pan y dechreuodd ef ymddangos yn gyhoeddus. Y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, er y dichon fod yn wir tramgwyddus i rai. Cyn ei ymddangosiad ef. anfynych y clywyd son am athrawiaethu grâs o r pulpud, ac nid oedd ond ychydig wybodacth o fywyd a grym duwioldeb. Yr oedd llawer o'r rhai mwyaf ysprydol ymhlith yr Ymneillduwyr yn galaru wrth weled mawr adfeiliad yn ymdanu yn eu mysg hwythau." Yr wyf yn barnu mai hyn yw'r gwir, mewn byr eiriau, o ran crefydd trwy Loegr a Chymru cyn cyfodi'r Methodists. Sonir mwy am y diwygiad hwn yn tu dal. 51. &c. Ganwyd Mr. Whitcfield yn 1714. Pregethodd ei bregeth gyntaf yng Nghaerloyw, lle ei enedigaeth, fis Mehefin, 1736 Bu farw vn America y 30 o Fedi, 1770. Dr. Gillies, Memoirs of Mr Whitefield, page 1, 9, 10, 269, 342.