Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gallai fod yn dra defnyddiol. Byddai da iawn gennyf fi weled hanesion helaeth o ddaioni Duw i'r Cymry bob amser.

Er nad ydym oll yn gallu hollol gytuno ymhob peth mewn crefydd, eto dymunwn i ni allu ymddwyn tuag at ein gilydd fel brodyr yn Iesu Grist. Nid yw amharchu ein gilydd yn un rhan o grefydd efengylaidd.

JOSHUA THOMAS.
Llanllieni
31 o Ragfyr, 1777.