HANES CREFYDD CYMRU.
I. DIBEN HANES.
Annog i holi
PLENTYN. Fy nhad, pe gwypwn y gallech, yn ddigolled, arbed awr neu ddwy oddi wrth bethau mwy buddiol, byddai dda iawn gennyf gael atebiad i rai gofyniadau sydd ar fy meddwl.
Tad. Fy mhlentyn anwyl, yr wyf yn edrych ar hyfforddi fy mhlant yn un o'r pethau mwyaf buddiol: gan hynny, od yw dy ofynion am bethau llesiol, troaf heibio bob peth, er dy ateb yn oreu ag y medraf.
P. Diolch yn fawr i chwi am eich parodrwydd. Os gwelwch fy ngofynion yn ffol, byddwch mor fwyn a dangos i mi eu bod felly.
T. Er fod yn weddus i blant fod yn ddiolchgar i'w rhieni. eto dyledswydd plant yw gofyn, a dyledswydd rhieni yw eu hateb a'u hyfforddi. Mae gorchymyn Duw am hynny.[1] Ac arfer yr[2] hen dduwiolion oedd hyfforddi eu plant.
Hanes yn fuddiol.
P. A ydych chwi yn barnu fod hanesion yn fuddiol, neu ynte yn bethau ofer?