T. Nid buddiol yw hen chwedlau ofer, disylwedd, a disail. Eto mae hanesion o bethau naturiol yn fuddiol yn eu lle. Ond y mae hanes Eglwys Dduw yn dra buddiol yn gyffredin.
P. Beth yr ydych chwi yn ei feddwl wrth Eglwys Dduw?
T. Yr holl dduwiolion o ddechreu i ddiwedd y byd.
Hanes yw'r Ysgrythyr.
P. Pa les yw hanes yr Eglwys? Beth waeth i ni beth a fu cyn ein hamser ni?
T. Hanes yr Eglwys yw rhan fawr, os nid y rhan fwyaf, o'r Ysgrythyr. Yno y gwelwn gyfyngderau a gwaredigaethau'r saint, a mawr ofal Duw tuag atynt, ei gariad iddynt, a'i ffyddlondeb i'w eglwys dros bedair mil o flynyddoedd, a chwaneg. Dynion sanctaidd Duw, sef proffwydi, apostolion, ac eraill, a gynhyrfwyd gan yr Yspryd Glân i lefaru wrth yr Eglwys, ac i ysgrifenu ei hanes yn yr amser a aeth heibio, yn gystal ag i broffwydo am dani yn yr amser i ddyfod.[1] Yr holl hanes a 'sgrifenodd Moses ac eraill, er addysg i ni y maent[2]. Nid yw bosibl deall a gweled proffwydoliaethau ac addewidion yn cael eu cyflawni ond trwy hanesion.
Hanes yr Eglwys yn esboniad ar yr Ysgrythyr.
P. Mae'n debyg fod hanes yr Eglwys yn fuddiol i amryw bethau; eto onid oes digon o'r hanes hyn yn yr Ysgrythyr heb ysgrifenu ychwaneg?
T. Mae llawer proffwydoliaeth yn y Gair, y rhai
a gyflawnwyd wedi dyddiau'r apostolion ac eraill