Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un o'r holl genedloedd a gesglid at Iesu Grist trwy'r efengyl; ac mai Prydain yw un o'r ynysoedd pell, yn ol yr addewid yn Esa lxvi. 18, 19.

A. A oedd y Beibl a gwir grefydd yma ymhlith ein cenedl ni yn yr hen amser gynt?

T. I genedl Israel y rhoddes Duw ei air i'w gadw hyd ddyfodiad Crist, fel y gwelir yn Rhuf. iii. 2 a'r ix. 4. Yr oedd ein cenedl ni, fel yr holl genhedloedd eraill, heb air Duw yr amser hynny.mlynedd ar hugain wedi croesholiad Crist, ac o [1]

Pryd y daeth yr Efengyl?

P. A wyr neb pa hyd y bu cyn i'r efengyl ddyfod i n gwlad ni, ar ôl amser ein Harglwydd Iesu?

T. Wrth fyned i ogoniant, un o'r geiriau diweddaf a ddywedodd ein Harglwydd bendigedig wrth ei apostolion oedd gorchymyn iddynt fyned i'r holl fyd, pregethu'r efengyl i bob creadur, a dysgu'r holl genhedloedd,[2] gan ddywedyd,—"Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig; eithr y neb ni chredo a gondemnir." Ar hyn aeth y gyfraith allan o Sion, a gair yr Arglwydd o Jerusalem, yn ol y proffwydi,[3] canys ar fyrr, aeth cenhadon yr Arglwydd yn rhwydd trwy'r gwledydd, ac nid hir y bu'r efengyl dlws nes cyrhaeddyd ein hynafiaid ni, yn ynys Brydain, yn ol yr addewidion a'r proffwydoliaethau y grybwyllwyd yn barod. Rhai a ddywedant bregethu'r efengyl yma cyn pen ugain mlynedd wedi dydd y pentecost yn Act. ii. 1, &c. Ond y mae haneswyr yn gyffredin yn cytuno fod yr efengyl yma yn y

fìwyddyn 63. Yr oedd hynny lai na deng

  1. Psal cxlvii. 19. 20. Eph. 11, 12.
  2. Mat. xxviii 19. Marc xvi. 15.
  3. Esa. ii. 3. Mic. iv. 2.