Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Ddegfed Erledigaeth.

P. A fn dim erledigaeth am grefydd yma yr amseroedd hynny?

T. Bu deg o erledigaethau creulon ar y Crisnogion tra fu yr ymerawdwyr paganaidd yn llywodraethu yn Rhufain; ond trwy ddaioni Duw i'n tadau ni, a bod y wlad hon mor bell, ni ddaeth yma ond y ddegfed erledigaeth yn amser Diociesian, yr ymerawdwr, ychydig cyn y flwyddyn 300. Dywedir fod yr erledigaeth honno yn waedlyd iawn yma, ac mai Alban oedd y merthyr cyntaf ar dir Brydain Fawr. Ar ei ol ef Aaron a Julius, gwyr enwog o Gaerlleon ar Wysg. Bu yma ddifa ofnadwy ar Grisnogion a'u llyfrau yr amser hynny. Gorchymyn caeth Diolcesian oedd llwyr ddifetha a llosgi tai addoliad a llyfrau y Crisnogion, heb adael papuryn heb ei losgi ag oedd yn cynnwys athrawiaeth Crist ac yn rhoddi hanes o fywyd y prif Grisnogion. Ni adawyd fawr o ysgrifeniadau'r Cymry yr amser hynny. Rhai yn dywedyd ddifa'r cwbl, eraill yn meddwl i rai gael eu cadw yn rhyw leoedd.[1]

Cystenyn Fawr.

P. A ddifethwyd crefydd yn hollol o blith y Cymry yr amser hyn?

T. Na ddo; fe dosturiodd Duw wrth y Brutaniaid er hyn oll, ac o'u plith y cyfodwyd amddiffynwr hynod o wir grefydd, sef Cystenyn Fawr, yr hwn a elwid yn Rhufain Constantinus.

Mab ydoedd ef i Elen, ferch Coel Godebog, Iarll

  1. "Drych," &c., tu dal. 196, &c. "Prcface to the history of Wales, in 1702."