Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Caerloew. Gwr o Rufain oedd ei dad; eithr dywedir eni y mab yn y wlad hon, lle bu ei dad a'i fam yn byw ennyd o amser. Dywedir ei fedyddio yntef ar broffes o'i ffydd.[1] Fel mai brenin o Gymru oedd y cyntaf o'r byd a fedyddiwyd, megis y tystia llawer; felly gwr o Gymru oedd yr ymerawdwr Crisnogol cyntaf yn y byd, a gwr enwog iawn oedd ef. Daeth tawelwch mawr oddiwrth erledigaeth trwy'r gwr hwnnw, yn holl rannau'r byd Crisnogol.

Pelagius.

P. Mawr oedd daioni Duw i'n tadau ni. A gawsant ddim gofid oddiwrth gyfeiliornadau mewn crefydd, fel rhannau eraill o'r byd?

T. Yr oeddent hwy yn cadw'r gwirionedd yn lew iawn tu hwnt i'r rhan fwyaf o broffeswyr. Ond cyfododd gwr yn eu plith yr hwn a fu niweidiol iawn, ei enw yma oedd Morgan, ond mewn gwledydd eraill Pelagius. Gwr o Wynedd ydoedd. Darfu i Mr. Simon Thomas, gwr o enedigaeth gerllaw'r Cilgwm yn Sir Aberteifi, argraffu hanes Pelagius, a'i farn, yn 1735. Mae "Drych y prif Oesoedd," a Saeson, Lladinwyr, a Groegiaid yn sôn am y gwr hwn, canys yr oedd yn adnabyddus trwy'r byd Crisnogol. Ei athrawiaeth oedd yr hyn a elwir, yn yr amser hyn, Arminiaeth, neu gyffelyb i hynny.

P. Pwy amser oedd hyn?

Garmon a Lupus.

T. Ychydig cyn y flwyddyn 400. Yr oedd y

  1. Drych." &c., tu dal. 64, 203, &c. Ocs Lyfr o waith Mr. Thomas Williams "Acts and Mon." p. 140. Danrers on baptism, pp. 60, 61..