Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Crisnogion o'r blaen yn ddiweddar wedi cael blinder mawr oddiwrth un Arius, gwr o'r Aifft, yr hwn oedd yn gwadu duwdod Crist; ond ni wnaeth hwnnw ddim llawer o niwed yn y wlad hon. Eithr cawsant yma ofid a blinder trwy gyfeiliornadau Morgan. Gan hynny danfonwyd Garmon a Lupus, o Ffrainc, i gynorthwyo y Brutaniaid, a'u cadarnhau yn y wir ffydd.